Ymchwiliad Unigol

Diplomâu Sylfaen, Canolradd ac Uwch

Mae'r Ymchwiliad Unigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio testun neu fater y maent yn ei astudio neu wedi'i astudio yn unrhyw un o'u rhaglenni Craidd neu Opsiynau Bagloriaeth Cymru. Gall yr Ymchwiliad Unigol godi o unrhyw ran o'r Craidd, gall ymwneud â'r Opsiynau, ac mae'n rhaid iddo gynnwys ystyriaeth o safbwynt lleol/Cymru ac o leiaf un safbwynt arall (e.e. y DU, Ewrop, y byd), neu ystyriaeth o fater mewn ffordd fwy thematig gan dynnu enghreifftiau o amrywiaeth o safbwyntiau. Mae gan y dysgwr lefel uchel o gyfrifoldeb personol am yr ymchwiliad a gellir ei gyflwyno ar ffurf ysgrifenedig neu lafar.

Mae union ofynion yr Ymchwiliad Unigol yn amrywio rhwng y lefelau Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Fodd bynnag, ar bob lefel, cafodd yr Ymchwiliad Unigol ei gynllunio i annog dysgu trwy brofiad a rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr gaffael ac ymarfer amrywiol Sgiliau Allweddol. Wrth gwblhau eu Hymchwiliad anogir dysgwyr i ddatblygu sgiliau gan gynnwys dysgu annibynnol, ymholi, meddwl yn greadigol, prosesu gwybodaeth, myfyrio a chyflwyno.