Gofynion ar gyfer y Diploma Canolradd

I ennill Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r dystysgrif graidd a chymwysterau opsiynol:-

Tystysgrif Graidd ar lefel 2:

  • Pedwar sgil allweddol, dau ar lefel 2, a dau ar lefel 1, gan gynnwys y tri cyntaf, h.y. Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh a thystiolaeth o fod wedi gweithio ar y chwe sgil allweddol.
  • Cofnodion dyddiadur a lle y bo hynny'n berthnasol, ddatganiadau dilysu ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cymru, Ewrop a'r Byd (gan gynnwys y modiwl iaith) ac Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith
  • Ymchwiliad Unigol ar lefel 2.

Gall ymgeiswyr amnewid cymhwyster mewn TGAU Astudiaethau Cyfrifiadur, TGCh neu Systemau Gwybodaeth ar Radd C neu uwch am y gofyn sgìl allweddol Lefel 2 mewn TGCh. Gall ymgeiswyr amnewid cymhwyster mewn TGAU Astudiaethau Cyfrifiadur, TGCh neu Systemau Gwybodaeth ar Radd E neu uwch am y gofyn sgìl allweddol Lefel 1 mewn TGCh.

Opsiynau

NVQ lefel 2 neu BTEC Cyntaf ar lefel llwyddo neu bedair TGAU A*-C neu gyfatebol (e.e. dwy TGAU 'dwyradd' neu dair TGAU ynghyd â dau gwrs byr TGAU).
Cymwysterau Prif Ddysgu a phrosiect estynedig ar lefel 2.

Noder: efallai na fydd rhai pethau cywerth, o ran NVQ, TAA, BTEC neu gymwysterau eraill, yn gwbl amlwg. Dylai canolfannau gyfeirio achosion o'r fath, neu ymholiadau tebyg, i CBAC.