- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Model CBC
Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster tros-fwaol yn cynnwys dwy ran: y Craidd a'r Opsiynau.
Mae'r Opsiynau yn gymwysterau wedi'u cymeradwyo y mae myfyrwyr yn eu cymryd ar hyn o bryd mewn ysgol neu goleg ôl-16. Bydd y myfyrwyr yn parhau i ddewis o'r Opsiynau sydd ar gael yn eu hysgol/coleg, fel y maent yn awr yn eu hastudiaethau ôl-16.
Y Craidd yw'r rhan newydd ac arloesol o Fagloriaeth Cymru. Mae'n orfodol ac yn cynnwys pum cydran:
- Sgiliau Allweddol
- Cymru, Ewrop a'r Byd
- Addysg Gysylltiedig â Gwaith
- Addysg Bersonol a Chymdeithasol
- Ymchwiliad Unigol
Bwriedir y pedair cydran olaf i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ennill eu sgiliau allweddol. Cliciwch ar y testunau i ddarganfod mwy am y cydrannau a gwybodaeth arall ar y Bac Cymreig.
Cysylltwch â Thîm y Project (02920 265010, info@wbq.org.uk) am gopïau o'r manylebau diweddaraf.