- English
- |
- Cymraeg
Ysgol Babyddol Cardinal Newman, Rhondda Cynon Taf, De Ddwyrain Cymru
Mae grwp o fyfyrwyr wedi bod yn dilyn y Bac Cymreig ers blwyddyn, gyda rhai myfyrwyr yn anelu am y Diploma Canolradd a rhai am y Diploma Uwch. Bellach mae'r myfyrwyr hyn ar eu hail flwyddyn ac yn astudio amrediad eang o bynciau U2/UG. Mae grwp newydd o fyfyrwyr a ddaeth i mewn i'r chweched dosbarth eleni yn dilyn y Bac Cymreig ac yn anelu naill ai at y Diploma Canolradd neu Uwch gydag arweiniad gan eu hathrawon.
Mae gan yr ysgol arfer arloesol ym maes cyfannu gofynion Craidd y Bac Cymreig â rhaglen Dug Caeredin. Er enghraifft, mae'r gofyn i gwblhau Cyfranogiad Cymunedol yn y Bac Cymreig yn adlewyrchu'r gofyn i gwblhau gwasanaeth cymunedol yng nghynllun Dug Caeredin ac mae'r myfyrwyr wedi defnyddio gweithgareddau rhaglen Dug Caeredin i ddarparu tystiolaeth ar gyfer eu Sgiliau Allweddol (6 Sgil Allweddol yn angenrheidiol i gyflawni'r Craidd CBC). Mae'r myfyrwyr yn gadarnhaol iawn am y profiadau ardderchog a gawsant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.